MEMORANDWM CYDSYNIAD DEDDFWRIAETHOL

 

Y Bil Gwasanaethau Ariannol

 

1.    Gosodir y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn o dan reol sefydlog (“RhS”) 29.2. Mae RhS 29 yn rhagnodi bod rhaid gosod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, ac y ceir cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol, gerbron Senedd Cymru os yw Bil gan Senedd y Deyrnas Unedig yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru at ddiben sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, neu at ddiben sy’n addasu’r cymhwysedd hwnnw.

 

2.    Cyflwynwyd y Bil Gwasanaethau Ariannol (“y Bil”) yn Nhŷ’r Cyffredin ar 21 Hydref 2020. Mae’r Bil a dogfennau cysylltiedig ar gael yma: https://services.parliament.uk/Bills/2019-21/financialservices.html

 

Amcanion Polisi  

 

3.    Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi datgan mai’r amcanion polisi yw sicrhau bod fframwaith rheoleiddiol y Deyrnas Unedig yn parhau i weithredu’n effeithiol i’r Deyrnas Unedig wedi iddi ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried bod y Bil yn gam cyntaf pwysig mewn perthynas â chymryd cyfrifoldeb dros reoleiddio gwasanaethau ariannol, gan sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn cynnal y safonau rheoleiddiol uchaf ac yn parhau i fod yn ganolfan ariannol fyd-eang agored a dynamig.

 

Crynodeb o’r Bil

 

4.    Noddir y Bil hwn gan Drysorlys Ei Mawrhydi (Trysorlys EM) ac mae prif ddarpariaethau’r Bil yn ceisio:

·         sicrhau bod fframwaith rheoleiddiol y Deyrnas Unedig yn parhau i weithredu’n effeithiol i’r Deyrnas Unedig wedi iddi ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

·         gwella safonau rheoleiddio darbodus blaengar y Deyrnas Unedig a hybu sefydlogrwydd ariannol drwy alluogi gweithrediad y gyfres lawn o safonau Basel III, cyfundrefn rheoleiddio ddarbodus ar gyfer cwmnïau buddsoddi, a rhoi’r pwerau angenrheidiol sydd eu hangen ar yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol i oruchwylio trosglwyddiad trefnus oddi wrth y meincnod Cyfradd Gwerthu Rhwng Banciau Llundain (LIBOR)

·         hybu tryloywder rhwng marchnad y Deyrnas Unedig a marchnadoedd rhyngwladol drwy gyflwyno mecanwaith newydd i symleiddio’r broses o roi cronfeydd buddsoddi tramor ar y farchnad yn y Deyrnas Unedig, a gwireddu ymrwymiad Gweinidogol i ddarparu mynediad tymor hir rhwng y Deyrnas Unedig a Gibraltar i gwmnïau gwasanaethau ariannol.

·         cyflwyno nifer o fesurau i gynnal fframwaith rheoleiddio gwasanaethau ariannol effeithiol a marchnadoedd cyfalaf cadarn.

 

Y darpariaethau yn y Bil y mae angen cydsyniad ar eu cyfer

 

5.    Mae Deddf Cyfarwyddyd Ariannol a Hawliadau 2018 wedi gwneud darpariaeth ar gyfer creu cynllun seibiant dyledion. Mae’r cynllun yn cynnwys dwy ran: Lle i Anadlu[1] a’r Cynllun Ad-dalu Dyled Statudol (SDRP).

 

6.    Bydd Cymal 32 yn diwygio adrannau 6 a 7[2] o Ddeddf Cyfarwyddyd Ariannol a Hawliadau 2018 i roi’r ystod llawn o’r pwerau sydd eu hangen ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddrafftio’r rheoliadau er mwyn gweithredu SDRP yn effeithiol.

 

7.    Yn gryno, bydd y diwygiadau hyn yn caniatáu gwneud rheoliadau mewn perthynas â’r SDRP a allai:

a)    orfodi credydwyr i dderbyn telerau ad-dalu diwygiedig;

b)    darparu mecanwaith codi tâl lle bydd credydwyr yn cyfrannu drwyddo at gost rhedeg y cynllun a'r cynlluniau ad-dalu; a

c)    cynnwys dyledion sy’n ddyledus i adrannau’r llywodraeth ganolog.

 

8.    Nid yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi nodi dyddiad penodol ar gyfer gweithredu’r SDRP, na dweud pryd y maent yn bwriadu gwneud y rheoliadau. Er hynny, bydd rhaid i unrhyw reoliadau, i’r graddau y maent yn darparu bod y cynllun SDPR yn gymwys i Gymru, gael eu gosod gerbron y Senedd a’u cymeradwyo drwy benderfyniad ganddi, er mwyn i’r rheoliadau hynny fod yn gymwys yng Nghymru.

 

9.    Mae Cymal 32 yn ymwneud â rheoli dyledion personol ac yn cynorthwyo unigolion i reoli eu dyledion, yn helpu i ddatrys anawsterau gydag ad-daliadau ac i ad-dalu yr hyn sydd yn ddyledus i gredydwyr mewn ffordd sy’n cael ei rheoli. Rhaid gofyn am gydsyniad oherwydd bod y ddarpariaeth yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a’i fod yn gwneud darpariaeth ynghylch materion sydd wedi eu datganoli. Mae pob un o ddarpariaethau eraill y Bil yn ymwneud â chadw gwasanaethau ariannol ac maent, oherwydd hynny, y tu allan i gymhwysedd y Senedd.

 

Y rhesymau dros wneud y darpariaethau hyn ar gyfer Cymru yn y Bil Gwasanaethau Ariannol

 

10.Bydd yr SDRP yn galluogi i unrhyw unigolyn ad-dalu ei ddyledion yn ôl amserlen y gellir ei rheoli, gydag amddiffyniadau cyfreithiol rhag unrhyw gamau gweithredu gan gredydwyr am gyfnod ei gynllun. Bydd hyn yn gyfle i bobl yng Nghymru, sy’n cael problemau â dyledion, i gael gwell rheolaeth ar eu materion ariannol. Bydd angen mewnbwn gan Lywodraeth Cymru ac ystod eang o randdeiliaid, wrth ddatblygu unrhyw gynllun SDRP.

  

11. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn briodol ymdrin â'r ddarpariaeth hon o fewn Bil y Deyrnas Unedig gan mai dyma'r cyfrwng deddfwriaethol mwyaf priodol a chymesur i alluogi datblygu'r rheoliadau a fydd yn caniatáu i ail ran y cynllun seibiant dyledion, h.y. yr SDRP, fod yn gymwys yng Nghymru yn amodol ar ystyriaeth lawn o fanylion unrhyw gynllun arfaethedig gan y Senedd a chymeradwyo'r rheoliadau sy'n ei weithredu.

 

Goblygiadau ariannol

 

12.Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol yn ymwneud â'r ddarpariaeth yn y Bil sydd mewn cymhwysedd.

 

Casgliad

 

13.Mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn briodol ymdrin â'r ddarpariaeth hon mewn Bil y Deyrnas Unedig er mwyn gallu datblygu'r rheoliadau a fydd yn caniatáu i ail ran y cynllun seibiant dyledion, h.y. yr SDRP gael ei weithredu. Pan gaiff ei weithredu, bydd yr SDRP yn cynnig cyfle i bobl yng Nghymru, sy'n cael problemau â dyledion, gymryd gwell rheolaeth dros eu harian a dod o hyd i lwybr cynaliadwy allan o ddyled.

 

14.Bydd rhaid i unrhyw reoliadau, i’r graddau y maent yn darparu ar gyfer bod y cynllun SDPR yn gymwys i Gymru, gael eu gosod gerbron y Senedd a’u cymeradwyo drwy benderfyniad ganddi. Bydd hyn yn caniatáu i’r Senedd ystyried goblygiadau’r SDRP yng Nghymru yn llawn, ac ystyried a chymeradwyo’r rheoliadau, ac unrhyw ddiwygiadau (a allai fod yn y rheoliadau) i Fesur neu Ddeddf Senedd Cymru sydd eisoes yn bodoli.

 

Jane Hutt AS

Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

3 Tachwedd 2020

 



[1] Mae rhan gyntaf y cynllun, Lle i Anadlu, yn cael ei gyflwyno drwy Reoliadau’r Cynllun Seibiant Dyledion (Moratoriwm Lle i Anadlu a Moratoriwm Argyfwng Iechyd Meddwl) (Cymru a Lloegr) 2020.

[2] Mae adrannau  6 a 7 o Ddeddf Cyfarwyddyd Ariannol a Hawliadau 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Ysgrifennydd Gwladol geisio cyngor ar sefydlu cynllun seibiant dyledion ac ystyried gwneud rheoliadau i sefydlu cynllun seibiant dyledion, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol ar ôl cael y cyngor hwnnw.